Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir

18 Mai 2015

 

CLA530 - Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gofynion Hyfforddi) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 19(2)(b), 19(3), 46 a 142 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ("y Ddeddf").

Mae'r Rheoliadau yn darparu y gall awdurdod trwyddedu at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf awdurdodi darparwr hyfforddiant a chymeradwyo cwrs at ddibenion cyflwyno hyfforddiant.  Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer gofynion mewn perthynas â nodi'r hyfforddiant.

 

CLA531 - Rheoliadau Mangreoedd etc  Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Ar hyn o bryd, mae Rheoliadau Mangreoedd etc  Di-fwg (Cymru) 2007 yn gwneud darpariaeth ynghylch gwahardd ysmygu mewn mangreoedd a cherbydau penodol. Mae Rheoliadau 2015 yn diwygio Rheoliadau 2007 drwy ychwanegu cerbydau preifat at y rhestr o fannau di-fwg: (i) os yw'r cerbyd yn gaeedig, (ii) os oes mwy nag un person yn y cerbyd, a (iii) bod person o dan 18 oed yn y cerbyd.

 

Mae eithriadau penodol yn ymwneud ag awyrennau, llongau, hofranlong, carafannau a chartrefi modur.

 

Bydd yn dod yn drosedd i ysmygu mewn cerbyd preifat gyda rhywun o dan 18 oed yn bresennol. Bydd yn dod yn drosedd hefyd i yrrwyr fethu ag atal ysmygu mewn cerbyd preifat gyda rhywun o dan 18 oed yn bresennol.

 

Gellir bodloni atebolrwydd troseddol am droseddau drwy dalu hysbysiad cosb benodedig o £50 (wedi'i ostwng i £30 os telir o fewn 15 diwrnod).